Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
23 Mai 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13346
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Cwestiwn Brys
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Atebwyd gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Heddlu De Cymru ynghylch terfysgoedd yng Nghaerdydd dros y 24 awr ddiwethaf?
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.37
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.38
3 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diweddariad ar Wasanaethau Bysiau
Dechreuodd yr eitem am 14.49
4 Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Costau Byw
Dechreuodd yr eitem am 15.48
5 Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Ddeddf Trefn Gyhoeddus - Goblygiadau i Gymru
Dechreuodd yr eitem am 16.25
6 Dadl: Cyfnod 4 y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) - GOHIRIWYD
Gohiriwyd yr eitem hon.
7 Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Cryfhau ein Cysylltiadau ag Iwerddon a Gogledd-Orllewin Lloegr
Dechreuodd yr eitem am 17.05
8 Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Dathlu Gwirfoddolwyr
Dechreuodd yr eitem am 17.39
Daeth y cyfarfod i ben am 18.06
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 24 Mai 2023